Helpwch ni i wella eich profiad o Mozilla

Yn ogystal â’r Cwcis sydd eu hangen er mwyn i’r wefan hon weithredu, hoffem gael eich caniatâd i osod Cwcis ychwanegol er mwyn deall eich anghenion pori yn well a gwella’ch profiad. Gallwch fod yn dawel eich meddwl am hyn - rydym yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd.

Gosodiadau'r cwcis
Mae Firefox wedi symud – Yr un genhadaeth. Yr un gwerthoedd. Croeso i firefox.com.
Cartref Firefox
  • Nodweddion

  • Adnoddau

    Cynnyrch

    • Bwrdd Gwaith
    • Symudol
    • Nodiadau Rhyddhau
    • Cefnogaeth
    • Ychwanegion

    Dysgu

    • Blog
    • Cymharu
    • Podlediad
  1. Tudalen flaenorol
  2. Gosodiadau'r cwcis

Gosodiadau'r cwcis

Ffeiliau bychain yw cwcis sy’n cynnwys darnau o wybodaeth sy’n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur neu ddyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Mae Mozilla yn defnyddio Cwcis i helpu i wneud i'n gwefannau weithio, yn ogystal ag i gasglu gwybodaeth ar sut rydych chi'n defnyddio ac yn rhyngweithio â'n gwefannau, megis y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw.

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r gwahanol fathau o Gwcis a thechnolegau tebyg megis tagiau picsel, ffaglau gwe, GIFs clir, JavaScript, a storfa leol (o hyn ymlaen, “Cwcis”) y gall Mozilla eu defnyddio, ac yn rhoi rheolaeth i chi dros ba fathau o ddata rydych yn cytuno i Mozilla ei gasglu.

Sut mae Mozilla yn defnyddio Cwcis

  • Angenrheidiol

    Beth yw Cwcis Angenrheidiol?

    Mae angen y technolegau hyn i gefnogi nodweddion gwefan hanfodol, fel mewngofnodi i ardal ddiogel o wefan neu ychwanegu eitemau at fasged siopa ar-lein, ac nid oes modd eu diffodd.

    Sut mae Mozilla yn defnyddio'r data hwn?

    Mae Mozilla yn defnyddio Cwcis Angenrheidiol i ddarparu nodweddion gwefan hanfodol yn unig, megis mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif Cyfrif Mozilla neu brynu tanysgrifiad meddalwedd wrth y ddesg dalu. Heb y technolegau hyn, efallai na fydd nodweddion gwefan hanfodol yn gweithio.

  • Dewisiadau

    Beth yw Cwcis Dewis?

    Mae'r technolegau hyn yn cael eu defnyddio i gofio dewisiadau a wnaethoch yn ystod ymweliad blaenorol â gwefan. Gallai enghreifftiau gynnwys ym mha iaith y mae'n well gennych ddarllen, neu pa thema lliw yw eich ffefryn.

    Sut mae Mozilla yn defnyddio'r data hwn?

    Mae Mozilla yn defnyddio Cwcis Dewis i gadw eich dewisiadau a gwella eich profiad wrth ymweld â'n gwefannau. Nid ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion dadansoddeg. Mae Cwcis Dewis yn cefnogi nodweddion mewn ffordd debyg i Gwcis Angenrheidiol, fodd bynnag gall gwefan barhau i weithredu hebddynt. O'r herwydd, gallwch ddewis optio allan o'u defnydd.

  • Dadansoddeg

    Beth yw Cwcis Dadansoddeg?

    Mae’r technolegau hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio gwefannau, megis tudalennau yr ymwelwyd â nhw, dolenni y cliciwyd arnyn nhw, ac o ba gwefannau eraill y daethon nhw.

    Sut mae Mozilla yn defnyddio'r data hwn?

    Mae Mozilla yn defnyddio gwybodaeth ddadansoddol i ddeall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n gwefannau fel y gallwn eu gwella, a thrwsio unrhyw broblemau sy'n codi. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio data o Gwcis, gwybodaeth dyfais, a chyfeiriadau IP i'n helpu i ddeall sut mae defnyddwyr yn ymgysylltu â'n cynnyrch, gwasanaethau, cyfathrebiadau, gwefannau, ymgyrchoedd ar-lein, dyfeisiau, a llwyfannau eraill. Dim ond gyda'ch caniatâd chi y byddwn yn casglu gwybodaeth ddadansoddeg ac yn gosod Cwcis Dadansoddeg.

Mae eich gosodiadau Cwci wedi'u diweddaru.

Ein hysbysiad preifatrwydd

I gael gwybodaeth fanylach am y gwahanol fathau o wybodaeth y mae Mozilla yn ei chasglu pan fyddwch yn ymweld â'n gwefannau, gallwch ddod o hyd i ddolen i'n hysbysiad preifatrwydd isod.

Hysbysiad Preifatrwydd

Wedi dod o hyd i wall gyda'n gwefan newydd? Rhowch wybod i ni.

Llwytho i Lawr

  • Llwytho Firefox i Lawr
  • Windows
  • Mac
  • iOS
  • Android
  • Linux
  • Dewisiadau Llwytho i Lawr Cyfaddas

Fersiynau Diweddaraf

  • Nightly
  • Beta

Firefox ar gyfer Busnes

  • Enterprise

Cymuned

  • Cysylltu
  • Cyfrannu
  • Datblygwr

Adnoddau

  • Cymharu
  • Nodiadau Rhyddhau
  • Dysgu
  • Cefnogaeth
  • Ychwanegion
  • Cymuned
  • Blog

Dilyn Ni

  • Instagram
  • YouTube
  • TikTok
  • Bluesky
  • Podcast
Firefox
  • Hysbysiad Preifatrwydd Gwefan
  • Amodau Defnydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau Cyfranogiad Cymunedol
  • Trwyddedu Nod Masnach Logo

Wedi'i bweru gan Mozilla

Rhoi pobl cyn elw ers 1998

Iaith