Firefox

Defnyddiwch Firefox fel eich porwr menter

Mae Firefox yn darparu pori diogel, gwydn sy'n canolbwyntio ar breifatrwydd ar raddfa fawr. Gyda pholisïau menter yn Firefox neu Firefox Extended Support Release (ESR), mae sefydliadau'n cael hyblygrwydd, rheolaeth a thryloywder mewn porwr cod agored y mae modd ymddiried ynddo.

Cefnogaeth Broffesiynol Firefox

Mae mynediad cynnar nawr ar agor ar gyfer ein rhaglen gymorth newydd. Wedi'i adeiladu ar gyfer sefydliadau sy'n defnyddio Firefox er mwyn sicrhau diogelwch, gwytnwch, a sofraniaeth data, mae'n darparu cymorth preifat, dibynadwy ac wedi'i deilwra ar gyfer gosodiadau ar raddfa fawr.

Diogeledd safon menter, wedi'i bweru gan Firefox

Dogfennaeth Cefnogaeth Broffesiynol Firefox

Mae Cefnogaeth Broffesiynol Firefox yn gynnig pwrpasol ar gyfer timau sydd angen brysbennu ac uwchgyfeirio materion preifat, amseroedd ymateb diffiniedig, dewisiadau datblygu personol, a chydweithio agos â thimau peirianneg a chynnyrch Mozilla.