Os ydych yn chwilio am borwr cyflym sy'n diogelu eich preifatrwydd, mae'r Cwestiynau Cyffredin yma i ateb y cwestiynau mwyaf perthnasol am Firefox.
Mae Firefox Browser, yr unig borwr mawr sy'n cael ei gefnogi gan gorff dim-er-elw, yn eich helpu i ddiogelu eich manylion bersonol. Dysgwch fwy am y Porwyr Firefox Browser a cynnyrch eraill.
Gallwch chi lwytho'r porwr bwrdd gwaith Firefox i lawr yn hawdd yma. Mae Firefox yn gweithio ar Windows, Mac, dyfeisiau Linux ac mae hefyd ar gael ar gyfer Android a iOS . Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n llwytho ein porwr i lawr o un o'n tudalennau Mozilla/Firefox dibynadwy.
Ydy! Mae Firefox Browser am ddim. Yn rhad iawn ac am ddim, mewn gwirionedd. Dim costau cudd nac unrhyw beth. Dydych chi ddim yn talu unrhyw beth i'w ddefnyddio.
Na, dydyn ni ddim yn credu bod Chrome yn well na Firefox, a dyma pam: pan fydd pobl yn gofyn pa borwr sy'n well, maen nhw wir yn gofyn pa borwr sy'n gyflymach a mwy diogel. Mae Firefox yn cael ei ddiweddaru'n fisol i sicrhau bod gennych y porwr cyflymaf sy'n parchu eich preifatrwydd yn awtomatig.
Diogelu eich preifatrwydd yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym yn sicrhau bod gosod Firefox ar eich dyfeisiau yn hollol ddiogel - ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ei lwytho i lawr o wefan dibynadwy Mozilla/Firefox, fel ein tudalen llwytho i lawr.
Nid yn unig y mae Firefox yn ddiogel i'w ddefnyddio, mae hefyd yn helpu i gadw'ch data a'ch manylion breifat yn ddiogel. Mae Firefox Browser yn rhwystro tracwyr trydydd parti hysbys, tracwyr cyfryngau cymdeithasol, cryptogloddwyr a bysbrintwyr yn awtomatig rhag casglu eich data. Rhagor am breifatrwydd ein cynnyrch.
Nid yw Firefox yn araf… nawr. Yn 2017, gwnaethom ailadeiladu ein peiriant porwr yn llwyr (ei enw yw Quantum), er mwyn sicrhau y gallai Firefox gystadlu â phorwyr mawr eraill. Ac, mae ein rhwystrydd tracwyr yn helpu tudalennau i lwytho hyd yn oed yn gyflymach. Felly mae Firefox yn chwim o gyflym heb aberthu dim o'ch preifatrwydd.
Nid yw Firefox wedi'i seilio ar Chromium (y project porwr cod agored sy'n sail i Google Chrome). Mewn gwirionedd, ni yw un o'r porwyr mawr olaf nad yw wedi ei adeiladu ar sail Chromium. Mae Firefox yn rhedeg ein peiriant porwr Quantum a adeiladwyd yn benodol ar gyfer Firefox, felly gallwn sicrhau bod eich data yn cael ei drin gyda pharch a'i gadw'n breifat.
Google yw'r peiriant chwilio rhagosodedig Firefox, sy'n golygu y gallwch chi chwilio'r we yn syth o'r bar cyfeiriad. Rhagor am ddewisiadau peiriannau chwilio a newid y rhagosodiad.
Mae Firefox yn cynnwys VPN mewnol am ddim sy'n diogelu eich cyfeiriad IP rhag cael ei dracio wrth i chi bori. Trowch ef ymlaen o fewn Firefox gydag un clic. Ar gael mewn marchnadoedd dethol. I gael diogelwch dyfais lawn ar draws eich holl ddyfeisiau ac apiau, edrychwch ar Mozilla VPN.
Mae Firefox yn cael ei wneud gan Mozilla Corporation is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r Mozilla Foundation, ac mae'n cael ei arwain gan egwyddorion Maniffesto Mozilla. Rhagor am wneuthurwr Firefox yma.