Golygu PDFau am ddim gyda Golygydd PDF Firefox

Os oes angen ychwanegu stwff at ddogfen PDF, nawr gallwch wneud hynny ar-lein gyda Firefox. Agorwch y PDF yn Firefox a chliciwch ar y botymau Testun neu Luniadu yn y gornel dde uchaf i wneud newidiadau i'ch dogfen. Llwythwch y ffeil i'w chadw gyda'ch newidiadau.

Llenwch ffurflenni ar-lein heb eu hargraffu a'u sganio

Rydyn ni i gyd wedi wynebu hyn: mae angen i chi lenwi ffurflen sy'n PDF, ond nid oes modd ei golygu. Yn y gorffennol, eich unig dewis oedd ei argraffu ar goeden farw, ychwanegu pethau gydag inc, ac yna ei sganio yn ôl i'ch cyfrifiadur.

Dim mwy! Nawr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw golygu'r PDF ar-lein gyda Firefox, ei gadw, a'i e-bostio o'ch cyfrifiadur.

Ychwanegu testun

Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch y botwm Testun i ddewis lliw a maint testun cyn dewis ble ar y ddogfen yr hoffech ychwanegu testun. Mae mor hawdd â hynny!

Ychwanegu lluniau

Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch yr eicon Llunio i ddewis lliw, trwch a didreiddedd cyn gallu tynnu llun ar y ddogfen.

Ychwanegu delwedd gyda thestun amgen

Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch ar yr eicon delwedd, a fydd wedyn yn eich annog i lwytho delwedd. Newidiwch faint a lleoliad eich delwedd yn ôl yr angen. Cliciwch ar y botwm “+ testun Amgen” ar y ddelwedd i ychwanegu disgrifiad o'r llun i wneud eich PDF yn fwy hygyrch.

Creu llofnod

Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch yr eicon llofnod ac yna cliciwch "Ychwanegu llofnod newydd". Dewiswch rhwng Math, Llunio neu Ddelwedd, a chliciwch ar y botwm Ychwanegu i'w fewnosod. Gallwch hefyd gadw eich llofnodion a'u defnyddio eto yn nes ymlaen.

Amlygu testun

Agorwch y PDF yn Firefox. Dewiswch y testun rydych chi am ei amlygu, yna cliciwch ar yr eicon amlygu sy'n ymddangos o dan eich dewis neu cliciwch ar y dde i ddod o hyd i'r dewis amlygu yn y ddewislen cyd-destun. Cliciwch ar yr eicon ar y dde uchaf i amlygu adrannau â llaw o'r PDF.

Ychwanegu sylwadau

Agorwch y PDF yn Firefox. Crëwch amlygiad, yna cliciwch ar yr eicon Sylw sy'n ymddangos o dan eich dewis, teipiwch eich sylw, a chliciwch Ychwanegu i'w gadw. Lot o sylwadau mewn PDF? Cliciwch yr eicon Sylw yn y gornel dde uchaf i agor y bar ochr a mynd i'r un sydd ei angen arnoch chi.