Firefox Developer Edition
Croeso i'ch hoff borwr newydd. Cewch y nodweddion diweddaraf, perfformiad cyflym a'r offer datblygu sydd eu hagen arnoch ar gyfer adeiladu ar gyfer y we agored.
Yn defnyddio Debian, Ubuntu neu unrhyw ddosbarthiad sy'n seiliedig ar Debian?
Gallwch chi osod ein storfa APT yn ei le.
Mae Firefox Developer Edition yn anfon adborth yn awtomatig i Mozilla. Dysgu rhagor
Firefox Developer Edition
Y porwr ar gyfer datblygwyr
Yr holl offer datblygwr diweddaraf o fewn y beta yn ogystal â nodweddion fel y Golygydd Consol Aml-lein ac Arolygydd WebSocket.
A proffil a llwybr ar wahân fel y gallwch chi ei redeg yn hawdd ochr yn ochr â Rhyddhau neu Beta Firefox.
Dewisiadau wedi'u teilwra ar gyfer datblygwyr gwe: Mae porwr a dadfygio o bell yn cael eu galluogi'n rhagosodedig, yn ogystal a'r thema dywyll a botwm bar offer y datblygwr.
Gwybodaeth yn gynt
Panel Ffontiau
Cynllunio. Codio. Profi. Mireinio.
Adeiladu a Pherffeithio eich gwefannau
gyda Firefox DevTools
Archwiliwr
Archwiliwch a choethwch eich cod i adeiladu cynlluniau perffaith.
Consol
Tracio anawsterau CSS, JavaScript, diogelwch a rhwydwaith.
Debugger
Dadfygiwr JavaScript pwerus sy'n cynnal eich fframwaith.
Rhwydwaith
Monitrwch geisiadau rhwydwaith sy'n gallu arafu neu rwystro eich gwefan.
Panel Storio
Ychwanegwch, newid neu dynnu data storfa, cwcis, cronfeydd data a data sesiynau.
Y Modd Cynllunio Ymatebol
Profwch wefannau ar ddyfeisiau wedi eu hefelychu o fewn eich porwr.
Golygu Gweledol
Cywiro animeiddiadau, aliniad a phadio.
Perfformiad
Agor rhwystrau, llyfnhau prosesau a gwneud y mwyaf o asedau.
Cof
Canfod colli cof a gwneud eich rhaglenni'n chwim.
Golygydd Arddull
Golygu a rheoli eich taenlenni CSS o fewn eich porwr.
Rhannwch eich barn
Mae adborth yn ein gwneud yn well. Dywedwch wrthym sut gallwn wella'r porwr a'r offer Datblygwyr.
Ymunwch
Helpwch ni i adeiladu'r porwr gwe annibynnol olaf. Ysgrifennwch god, drwsio gwallau, creu ychwanegion a rhagor.